working in collaboration with the writer Leona Jones
PHANTASIEN
is an 18 minutes film streamed as uncompressed data.


CYFLWYNIAD

Dreams are excursions into the limbo of things,
a semi-deliverance from the human prison. H Henri Frédéric Amiel, Journal, 1872

Mae Phantasien yn gwahodd dyn i archwilio mannau mewnol wedi’i ymylu gan freuddwydion. Mae delweddau ac amgylchedd sain yn caniatáu i fforiwr brofi breuddwyd effro yn ei gynefin dychmygol ei hun. Profiad o ymgolli’n llwyr wedi’i ddylunio i ddeffro cymhlethdodau aml haenog breuddwydion a senarios real a/neu senarios a ddychmygwyd, pethau gweledol a synau yn gwehyddu gyda’i gilydd i alluogi’r fforiwr i’w trawsnewid yn ôl ei ddymuniad, neu beidio.

Gwahoddir pob breuddwydiwr posib i gamu’r tu allan i anhunedd tra’n effro, a gwneud fel y mynnent o’r profiad, yr hyn y maent yn ei ddychmygu y maent yn ei brofi, a’r hyn y maent yn agored i’w brofi.

CEFNDIR

In dreaming The clouds methought would open and show riches Ready to drop upon me; that, when I wak’d I cried to dream again.
William Shakespeare, The Tempest, 1623

A Dream has power to poison sleep.
Percy Bysshe Shelley, Mutability, 1816

Yn ôl Prosiect Ymchwil Cwsg Cenedlaethol Cymdeithas Gwsg Awstralia, mae’n bosibl na fydd un ennyd o gwsg pan na fyddwn yn breuddwydio. Credwyd bod breuddwydion ond yn digwydd yn ystod cyfnodau o symudiad llygaid cyflym (REM), ond maent hefyd yn digwydd i raddau llai mewn cyfnodau o gwsg lle na cheir symudiad llygaid cyflym, er, dangoswyd bod breuddwydion yn ystod cyfnodau o gwsg symudiad llygaid cyflym yn wahanol i freuddwydion lle na cheir symudiad llygaid cyflym. Mae’r math cyntaf yn cynnwys plotiau od, ond mae’r math olaf yn fwy ailadroddus, yn debycach i syniadau, ac nid ydynt yn cynnwys llawer o ddelweddau. Mae mathau penodol o symudiad llygaid yn ystod cwsg lle y ceir symudiad llygaid cyflym yn cyfateb i symudiadau penodol mewn breuddwydion, gan awgrymu bod o leiaf un rhan o’r broses o freuddwydio yn debyg i wylio ffilm. Ond, nid oes un diffiniad biolegol byd eang sy’n diffinio breuddwydio.

Yr emosiynau mwyaf cyffredin a deimlir mewn breuddwydion yw gorbryder, ofn a hapusrwydd, ac mae’r rhain yn safonol ar draws y byd. Mae breuddwydion yn deillio o safle egosentrig y breuddwydiwr, sy’n symud o amgylch y freuddwyd fel pe bai mewn man lle mae eitemau wedi cael eu gosod mewn gofod ac amser.

Mae cynnwys a diben breuddwydion wedi bod yn bwnc trafod mewn hanes a diwylliant, er enghraifft, cawsant eu cysylltu gyda rhagfynegi digwyddiadau, galluogi’r cof tymor hir i gofio profiadau, galluogi cyfathrebu gyda chyndeidiau, neu helpu’r ymennydd i ddileu atgofion diangen. Yn wir, mae’n bosibl nad oes unrhyw ddiben i freuddwydion o gwbl, ac efallai mai dim ond sgil-gynnyrch dibwynt dau gyfaddasiad esblygol ydynt – cwsg a’r ymwybod.
Ond mae’r diddordeb ym mhŵer breuddwydion a’r anymwybodol wedi bod yn destun llwyth o lenyddiaeth, yn cynnwys ysgrifau dylanwadol gan André Breton, siaradwr ar ran y Mudiad Swrrealaidd. Roedd y Swrealwyr yn defnyddio breuddwydion a lefelau o ymwybyddiaeth i ddod o hyd i ffordd i mewn i fyd meddyliol o bosibiliadau diddiwedd, gan chwilio am
...a certain point of the mind at which life and death, the real and the imagined, past and future, the communicable and the incommunicable, high and low, cease to be perceived as contradictions...
fel yr ysgrifennodd Breton yn ei ail Manifeste du surrealism yn 1930.

PROSES

It is on the whole probable that we continually dream, but that consciousness makes such a noise that we do not hear it.
Carl Jung, 1875 - 1961

Er mwyn archwilio ac amlygu cysyniad mor anniriaethol â breuddwydion, dewisodd Richard Higlett a Leona Jones yr atom hydrogen fel eu man cychwyn. Hydrogen yw’r elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd - mae 90% o bopeth yn bodoli ar ffurf hydrogen. Dyna danwydd sêr a dyma’r elfen a greodd pob elfen arall. Rydym ni a’n planed yn ddyledus i hydrogen am ein bodolaeth. Adeiladwyd model o atom hydrogen, gan ddefnyddio deunyddiau a gysylltir gyda dalwyr breuddwydion yr Americanwyr Brodorol.

Yna, ffilmiwyd y Daliwr Breuddwydion yn erbyn cefndir du dwys. Ni ddefnyddiwyd unrhyw ddyfeisiau mecanyddol i ysgogi symudiad; caniatawyd i’r model ddod o hyd i’w fomentwm a’i ecwilibriwm ei hun wrth iddo hongian mewn gofod. Gwnaed y gwaith ffilmio ymhell wrth fwrlwm bywyd bob dydd, gan alluogi crynodiad o sylliad a dealltwriaeth a thrwy hynny, ddechrau’r broses o greu awyrgylchoedd gwahanol.

O ddechrau’r prosiect, bwriadwyd i’r amgylchedd sain ysgogi cyflyrau newidiol o ymwybyddiaeth. Dechreuwyd ar y gwaith o ddod o hyd i synau canfyddedig. Roedd rhaid i’r cyfan fod yn organig ac yn amgylchynol, oherwydd natur y profiad cynhennid a oedd yn cael ei bortreadu. Daethpwyd o hyd i rai synau y tu mewn, a daethpwyd o hyd i eraill y tu allan. Roedd synau a waredwyd, synau a anwybyddwyd, synau a roddwyd ar y rhyngrwyd yn fwriadol yn y gobaith y byddai rhywun yn eu defnyddio. Recordiwyd rhai yn arbennig ar gyfer y prosiect, darganfuwyd eraill wrth fynd ati i chwilio. Tynnwyd y cyfan o’u sefyllfa wreiddiol, a chafodd y rhan fwyaf ohonynt eu trawsffurfio er mwyn adlewyrchu’r newid y mae’r dychymyg a’r anymwybodol yn eu cyfrannu at olwg y breuddwydiwr o’r byd.

Tyfodd y pethau gweledol a’r synau gyda’i gilydd, gan ddylanwadu ar ei gilydd; synau a chwaraewyd yn y cefndir wrth ffilmio, a gwnaeth fersiynau mud o’r pethau gweledol ysgogi’r gwaith o chwilota am synau. Daeth segmentau unigol at ei gilydd, gan gymysgu, asio, wrth i ddeinameg y darn cyffredinol ffurfio a chymryd siâp.

O’r broses ddwyffordd hon o ddelweddau/amgylchedd sain a oedd yn llifo, daeth naratif breuddwyd i’r amlwg, lle mae cyfeirbwyntiau gweledol a chlywedol yn agored i ddehongliadau amgen. Mae ymddangosiad cyfnewidiol y Daliwr Breuddwydion, golwg a synau breuddwydion yn crynu drwy’r edefydd, yn creu gosodiad sy’n portreadu cyflyrau newidiedig ymwybyddiaeth y meddwl yn llithro dros drawsnewidiadau a ffiniau, i mewn ac allan o gwsg trwm, a’r emosiynau a brofir ar siwrnai o’r fath.